Ti yw 'mywyd, Ti yw'm gobaith,
Ti yw'm cysur, Iesu, i gyd;
Ac i Ti 'rwyf yn dadguddio
Fy nirgelion pena' 'nghyd:
Arnat Ti 'rwyn rhoi fy ngofal,
Trefna'm llwybrau oll yn lân,
Rho i mi gerdded wrth dy ochr
Mewn llifeiriant mawr a thân.
Edrych 'rwyf fi tros y bryniau,
Dysgwyl am addewid nen;
Ac och'neidio am i'r fynyd
Bur ddedwyddaf, ddod i ben:
Rwy'n gobeithio'n erbyn gobaith,
Caria fy nghriddfanau'r dydd,
Ac ar fyrder tyr cadwynau,
Câ'i fy nhraed a'm dwylaw'n rhydd.
Mi edrychaf ar i fyny,
Deued t'wllwch, deued nos,
Os daw heddwch im' o unlle,
Daw o haeddiant
gwaed y groes;
Dyma'r fan y gwnaf fy nhrigfan,
Yma y gobeithiaf mwy;
Nid oes iechyd byth i'm henaid
Ond mewn dwyfol farwol glwy.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Mi edrychaf ar/at i fynu O na chlywn yr utgorn arian |
Thou art my life, Thou art my hope,
Thou art my comfort, Jesus, altogether;
And to Thee I am revealing
My chief secrets all together:
Upon Thee I am putting my care,
Arrange all my paths completely,
Grant me to walk by thy side
In the great floods and fire.
Looking I am across the hills,
Waiting for the promise of heaven;
And groaning for the pure,
Happiest minute, to come to pass:
I am hoping against hope,
My groans will carry the day,
And shortly chains shall break,
My feet and my hands may go free.
I am looking up,
Come darkness, come night,
If peace comes to me from anywhere,
It will come from the merit
of the blood of the cross;
Here is the place I will make my dwelling,
Here I shall hope evermore;
There is no health ever for my soul
But in a divine mortal wound.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|